GYRFAOEDD
Mae ein gweithwyr a'n gwasanaethau yn cyffwrdd â bywydau eraill bob dydd wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i'w cadw'n ddiogel.
Wrth wneud cais am rôl gyda'r Gwasanaethau Dalfa a Chadw, credwn ei bod yn bwysig iawn bod gennych ddealltwriaeth realistig o beth mae’n golygu i fod yn Swyddog Dalfa Carchar, Rheolwr neu'n aelod o'n tîm cefnogaeth yn y carchar o fewn unrhyw un o’r Carchardai yn y DU.
Mae'r cyfleoedd ar gyfer gyrfa hirdymor yn niferus ac yn amrywiol. A ydych eisoes yn brofiadol o fewn amgylchedd rheolaeth neu gweithredai Carchardai, neu'n chwilio am lwybr gyrfa newydd gyda chyfle i wneud gwahaniaeth, efallai y bydd gennym ni rôl i chi. Fe allech chi fod yr unigolyn hwnnw sy'n gwneud gwahaniaeth bob dydd.
ROLAU GWEITHREDOL
ROLAU GWEITHREDOL
Rydym ni yn edrych am bobl o gefndiroedd ystod amrywiol gyda sgiliau craidd fel cyfathrebiad da, gwytnwch, empathi, uniondeb i ffynnu ac ymuno â'n tîm rheng flaen yn Garchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc.
Wrth weithio'n agos gyda sawl tîm ar draws y carchar, mae gan rolau gweithredol nifer o gyfrifoldebau allweddol ble mae adsefydlu wrth wraidd yr hyn a wnawn. Yn gyntaf oll, mae'n hanfodol bod y carchar yn ddiogel gyda phob un carcharor yn cael ei gyfrif bob dydd. Mae rolau gweithredol yn chwarae rhan allweddol trwy ddarparu strwythur a threfn carcharorion yn sicrhau eu bod yn cyraedd y gwaith yn y bore, yn ymgysylltu'n weithredol â'r drefn garchardai ac yn ddiogel yn eu cell yn y nos. Mae bod yn fodel rôl ac arweinydd yn annog carcharorion i wneud dewisiadau cadarnhaol sy'n eu helpu i droi eu bywydau o gwmpas.
Mae rolau gweithredol yn rôl heriol ac nid yw dau ddiwrnod yn unfath heb ddim dau ddiwrnod yr un peth ond mae cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac o ran eich datblygiad eich hun gallwn eich cefnogi chi i ystod o rolau ar draws a thu hwnt y carchar.
Mae gan ein tîm gyfle go iawn i wneud gwahaniaeth, ac rydym ni'n annog pobl i wella'r ffordd y rydym yn gweithredu a datblygu ffyrdd newydd o weithio i wella diogelwch a chefnogaeth i’r carcharorion. Os ymunwch â ni, fe fyddwch yn darganfod amgylchedd gwaith cyfeillgar, diogel a phroffesiynol ac fe fyddwn yn darparu cefnogaeth, hyfforddiant ac anogaeth sydd eu hangen arnoch i adeiladu a datblygu gyrfa lwyddiannus gyda ni.
Gwyliwch ein fideo -
Diwrnod ym Mywyd Swyddog Carchar y Ddalfa yma ▼
Diwrnod ym mywyd SDC6
Dechreuais fy ngyrfa fel SDC6 ar y 15fed o Ionawr 2018, ble cefais fy nghyflogi gan G4S yng Ngharchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc. Dyma’r diwrnod ble dechreuais 9 wythnos o hyfforddiant a oedd yn cynnwys hyfforddiant ar weithdrefn gywir ar sut i wneud pethau ac yn bwysicach, cafon ni ei rybuddio am wneud pethau yn anghywir. Fel Swyddog Ddalfa Carchar (SDC), rydym yma i arwain a chynorthwyo carcharorion trwy drefn ddyddiol y carchar. Dyma’r nodweddion diwrnod arferol ym mywyd SDC.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cyfraith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ogystal â Rheolaeth ac Atal Corfforol, ble trafodwyd yr holl bethau sylfaenol mae angen i chi wybod am y swydd. Bydd yr hyfforddiant yn darparu’r offer sydd angen arnoch i weddu mewn i SDC dda. Ond mae’r addysg go iawn yn dechrau ar eich daliad gyntaf. Fe weloch eich hun yn rhan o dîm, ac yn y dyddiadau cynnar, fe fyddwch yn cael eich hyfforddi gan swyddog profiadol.
Efallai y bydd yr hyfforddiant yn dod i ben yn swyddogol ar ôl 9 wythnos ond bydd SDC da yn dysgu rhywbeth bob dydd. Efallai y byddwn ni'n rhedeg yr un drefn dyddiol, gydag amrywiad bach ar benwythnosau, fodd bynnag ac yn sgil wynebu heriau a thasgau, nid oes dau ddiwrnod yr un peth. Dyna’ peth sy'n gwneud gweithio yn y sefydliad hwn mor gyffrous.
Bydd yr hyn sy'n dilyn yn drosolwg bras o ddiwrnod nodweddiadol. Ond fel y dywedais, bydd nifer o bethau eraill y byddwch yn eu gwneud bob dydd yn wahanol - mae hyn yn strwythur sylfaenol.
Am tua 06:40y.b, rydw i’n cyrraedd y porthdy ac yn casglu camera (wedi’i wisgo ar fy nghorff), set o allweddi a radio ar gyfer dechrau fy naliad. Defnyddir y radios trwy gydol y dydd er mwyn ymateb i larymau neu godau, neu i symud carcharorion o amgylch y sefydliad.
Pan gyrhaeddwn y gwaith am 06:45y.b barod ar gyfer cychwyn am 07:00y.b, rydym yn cychwyn gyda throsglwyddiad i egluro'r hyn digwyddodd ers ein daliad diwethaf er mwyn darganfod os mae yna unrhyw faterion y dylem fod yn ymwybodol o. Wedyn, rydym yn sicrhau y mae’r gwaith papur yn barod am y diwrnod e.e. rhestrau meddyginiaethau, rhestrau gwaith, rhestrau gampfa ac mae’r cyfnod dyddiol wedi ei ddiweddaru.
Diogelwch yw’r pwys mwyaf, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwybod faint o garcharorion sydd gennym ac mae rhaid sicrhau maen nhw yn yr union le ddylen nhw fod. Dechreuwyd diwrnod arferol gyda fy nhasg gyntaf sef archwilio pob cell i sicrhau lles y carcharorion yn ogystal â gwirio eu presenoldeb. Dilynir hyn â gwiriad o amgylchedd yr uned i sicrhau bod popeth yn ddiogel cyn i ni datgloi y carcharorion am frecwast a chychwyniad eu diwrnod.
Mae cyfleoedd cyflogaeth trwy gydol y carchar trwy weithdai, ynghyd â chyfleusterau addysg o wersi llythrennedd sylfaenol i hyfforddiant y Brifysgol Agored. Mae gan y carcharorion cyfleoedd i gael eu cyflogi ar unedau preswyl ei hunain trwy gadw ardaloedd byw yn lân ac yn daclus, a hefyd gweini prydau bwyd.
Ar ôl cinio, mae’r holl garcharorion yn cael ei cloi yn eu cell unwaith eto er mwyn cynnal gwiriad arall. Pan roddir cyfrif am bawb, bydd y carcharorion yn dychwelyd i weithio am gyfnod y prynhawn.
Ar ôl cinio, mae’r holl garcharorion yn cael ei cloi yn eu cell unwaith eto er mwyn cynnal gwiriad arall. Pan roddir cyfrif am bawb, bydd y carcharorion yn dychwelyd i weithio am gyfnod y prynhawn.
Yr unwaith mae fy naliad yn dod i ben am 20:30y.h, byddaf yn datgysylltu o’r rhwydwaith trwy ofyn caniatâd o’r ‘DP’, dychwelyd fy allweddi a chamera a dyna ddiwedd fy niwrnod.
Yr unwaith mae fy naliad yn dod i ben am 20:30y.h, byddaf yn datgysylltu o’r rhwydwaith trwy ofyn caniatâd o’r ‘DP’, dychwelyd fy allweddi a chamera a dyna ddiwedd fy niwrnod.
Byddion a Hyfforddiant
Daliadau gwaith llawn amser
Gwyliau blynyddol – 25 diwrnod
Hyfforddiant parhaus llawn
ROLAU GORUCHWYLIO A CHEFNOGAETH
Mae pob un o’n gweithwyr yn gwneud gwahaniaeth. Nid yn, fe fyddwch yn darparu arweinyddiaeth a chymhelliant sydd ei angen arnynt i wneud gwaith gwych fel Goruchwyliwr. Fe fyddwch yn hefyd cadw llygad ar ein gweledigaeth strategol, gan wneud yn siŵr mae popeth a wnawn yn unol â'n hamcanion uchel.
Trwy weithio mewn rôl gefnogol, rydych chi'n chwarae rhan ganolog o'n llwyddiant parhaus a gweithrediad bob dydd y Carchar. Mae gennym nifer o swyddogaethau cymorth yn y Carchar fel Adnoddau Dynol, Seicoleg, Caplaniaeth, Rheoli a Gweinyddu Cyfleusterau ynghyd â llawer mwy. Felly bydd rhywbeth sy'n addas i chi!
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gweithwyr yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer dilyniant. Hefyd, byddwn ni’n darparu pob cyfle i drawsnewid heriau i gyfleoedd ac i ragori yn bersonol a broffesiynol.

SUT I YMGEISIO
P'un a ydych eisoes yn brofiadol o fewn amgylchedd rheolaeth neu gweithredai Carchardai, neu'n chwilio am lwybr gyrfa newydd neu mae ganddo’ch chi diddordeb mewn rôl cefnogaeth – mae gennych gyfle i wneud gwahaniaeth..
Darganfyddwch fwy o fanylion am yr ystod o gyfleoedd cyffrous sydd ar gael trwy glicio yma.
Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan bwysig o Wasanaethau Gofal ac Adsefydlu G4S. Rydym yn annog ceisiadau gan bob grŵp amrywiol
Mae gennym gyfrifoldeb corfforaethol i sicrhau bod diogelwch a gwerthoedd G4S wrth wraidd popeth a wnawn.
Please note that these vacancies are subject to a 5/10 year checkable history and the strict vetting standards set by G4S and the Her Majesties Prison and Probation Service and are exempt from the Rehabilitation of Offenders Act 1974.
You must be eligible to work in the UK and must have been a resident of the UK for a minimum period of 3 years. You will also need to provide full details of your employment and education history for the last 5/10 years as part of the security screening process for this role.